Y Safonau i Sicrhau Diogelwch
Yn y Diwydiannau Creadigol
Mae Awdurdod Annibynnol Safonau’r Diwydiannau Creadigol wedi nodi’r ymddygiad gofynnol a ddisgwylir ar draws diwydiannau creadigol y Deyrnas Gyfunol i alluogi amgylcheddau gwaith diogel a chynhwysol. Mae hyn yn cynnwys atal a mynd i’r afael â phob math o fwlio ac aflonyddu, gan gynnwys ymddygiad o natur wahaniaethol.
Datblygwyd y Safonau mewn cydweithrediad ag unigolion a sefydliadau ar draws y diwydiannau creadigol. Maent yn amlinellu sut beth yw amgylchedd gwaith diogel a chynhwysol, sy’n trin pobl ag urddas ac sy’n raddadwy i sefydliad, cynhyrchiad neu brosiect o unrhyw faint; gan ddarparu fframwaith ar gyfer un weledigaeth unedig o safonau ymddygiad proffesiynol yn y diwydiannau creadigol. Ceir pedair Safon, sy’n cael eu crynhoi isod:
- Amgylcheddau Gweithio Diogel: Rhaid i bawb sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol allu gwneud hynny mewn amgylchedd proffesiynol, heb ddod i gysylltiad â niwed seicolegol, rhywiol a chorfforol.
- Amgylcheddau Gweithio Cynhwysol: Mae gan bawb sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yr hawl i gael eu trin yn deg a heb ragfarn yn ystod pob cam o’u gyrfa. Felly, mae’n rhaid rhoi camau gweithredol ar waith i atal gwahaniaethu ac eithrio, gan sicrhau bod rolau a’r amgylchedd gwaith yn wirioneddol hygyrch i bawb.
- Mecanweithiau Adrodd Agored ac Atebol: Dylai pawb deimlo’n hyderus y bydd unrhyw bryderon y maent yn eu codi yn derbyn y sylw angenrheidiol a’u datrys cyn gynted â phosibl. Dylent wybod sut i godi pryder, a gallu gwneud hyn heb ofni cael eu herlid, eu tawelu neu brofi canlyniadau andwyol ar gyfer eu gyrfa.
- Diwylliant Dysgu Ymatebol sy’n galluogi’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol i weld pryderon yn cael eu codi fel cyfle nid yn unig i fynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol, ond hefyd i ddysgu a gweithredu.
Dywedodd y Farwnes Helena Kennedy, Cadeirydd yr Awdurdod; “Rydym yn falch iawn i lansio ein Safonau, sydd wedi’u dylunio’n drylwyr gyda gofal ac ystyriaeth trwy gydweithio manwl a helaeth â chyrff allweddol yn y sectorau ffilm, teledu, theatr a cherddoriaeth; gan gynnwys ein Pwyllgor Cynghori ar Safonau hynod gefnogol.
“Er gwaethaf llawer o waith yn y maes hwn, gwyddom fod bwlio ac aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol ac ymddygiad o natur wahaniaethol, yn parhau i fod yn gyffredin yn y diwydiannau creadigol. Mae anghydbwysedd pŵer, arferion ac amgylcheddau gwaith anffurfiol, ac ansicrwydd swyddi oll yn ffactorau sy’n cyfrannu. Mae’r effaith benodol ar aelodau llawrydd a hunangyflogedig gweithlu’r diwydiannau creadigol yn arbennig o ddifrifol, felly mae’r angen am ein hawdurdod yn cael ei deimlo’n ddwys iawn.
“Felly mae’r Safonau hyn yn foment nodedig, i ddarparu cysondeb a chydlyniad i amgylchedd gall fod yn heriol i’w lywio o ran yr hyn sy’n gyfystyr ag ymddygiad niweidiol yn y diwydiannau creadigol, a sut y gellir atal ac ymgymryd â hyn.”
Dywedodd Niyi Akeju, Pennaeth Datblygu’r Safonau; “Rydym yn gobeithio y bydd y Safonau hyn a gymeradwyir gan y diwydiant yn gyfeiriad defnyddiol i unrhyw un sy’n profi neu’n derbyn adroddiadau o ymddygiad niweidiol. Ein cam nesaf ar gyfer y Safonau fydd darparu arweiniad ymarferol ac enghreifftiau darluniadol wedi’u teilwra i gefnogi gweithrediad y Safonau mewn sefyllfaoedd go iawn.
“Rydym mor ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at greu’r Safonau hyn, o’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau i’r llu o sefydliadau ac unigolion eraill a gysylltodd gyda ni wedi’r drafft cychwynnol ac yn ystod yr ymgynghoriad ei hun. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau bod y Safonau yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.”
Dywedodd Jen Smith, Prif Swyddog Gweithredol yr Awdurdod ; “Mae ein gwaith yn ymdrech ar y cyd gyda sefydliadau blaenllaw y sectorau creadigol i gefnogi sefydlu corff annibynnol mawr ei angen a fydd yn cynnig cyngor a chefnogaeth ddiduedd i’r rhai sy’n wynebu bwlio, aflonyddu ac ymddygiad gwahaniaethol yn yr holl sectorau creadigol; gan ddechrau ym myd ffilm, teledu, cerddoriaeth a theatr. Mae gosod a gwreiddio Safonau clir ac ymarferol i’n sector yn gam cyntaf pwysig wrth i ni symud tuag at ddarparu ystod lawn o wasanaethau megis cyfryngu, datrys anghydfodau ac adrodd ar ymddygiadau sy’n peri pryder yn ddiogel ac yn gyfrinachol.”
Bydd Awdurdod Annibynnol Safonau’r Diwydiannau Creadigol yn casglu mewnwelediadau o’r defnydd o’r Safonau er mwyn meincnodi sut mae’r diwydiannau creadigol yn ymgorffori amgylcheddau gwaith diogel a chynhwysol yn sgil y disgwyliadau hyn, ac yn nodi a chynhyrchu canllawiau ymarferol wedi’u teilwra, ac yn seiliedig arnynt. Bydd y canllawiau hyn yn amlinellu cyngor, cefnogaeth ac arfer da ar sut y gall unigolion, sefydliadau, cynyrchiadau a phrosiectau fodloni’r disgwyliadau a osodir gan y Safonau yn ymarferol, mewn modd sydd wedi’i teilwra i faint a natur eu gwaith.
Unwaith y bydd Awdurdod Annibynnol Safonau’r Diwydiannau Creadigol yn gwbl weithredol, bydd gweithlu’r diwydiannau creadigol yn gallu adrodd pryderon i’r Awdurdod sy’n gysylltiedig â thoriadau posibl o’r Safonau a, lle bo’n briodol, bydd yr Awdurdod yn cefnogi’r unigolion, sefydliadau, cynyrchiadau neu brosiectau hyn gyda chyngor priodol ac yn cyfeirio at adnoddau a fydd yn eu helpu i sicrhau bod eu pryderon yn cael sylw. Maes o law, bydd yr Awdurdod [sef The Creative Industries Independent Standards Authority yn Saesneg, neu CIISA] yn ceisio cyflwyno gwasanaethau sydd â’r nod o ddatrys pryderon lle bo hynny’n bosibl.
O’r adroddiadau a dderbyniwyd, bydd CIISA yn dechrau sefydlu mewnwelediadau i’r ystod o brofiadau ar draws y diwydiannau creadigol. Yna bydd CIISA yn edrych ar ddatblygu cynhyrchion hyfforddi ac achredu i gefnogi datblygiad proffesiynol i unigolion yng ngweithlu’r diwydiannau creadigol mewn meysydd sy’n berthnasol i’r Safonau.